MR. WILLIAM ROBERTS, 33 NORTH STREET, PWLLHELI.

Dydd Mawrth, bu farw Mr W. Roberts, 33 North Street, yn 83 mlwydd oed. Genedigol ydoedd o Benygraig, Lleyn, morwr wrth ei alwedigaeth ac wedi bod gyda Cwmni Llongau yr L.M.S. Lerpwl am ugain mlynedd, ac ymneilltuodd oddeutu 17 mlynedd yn ôl.

Gedy weddw, pum merch, dau fab, a brawd sef Capt. G. Roberts, Cei Newydd. Y mae ei fab Mr John Roberts, yn Awstralia, ac yr oedd ei ferch, Mrs Nora O'Connor, Llundain, yn analluog i fod yn bresennol yn yr angladd a gymerodd le ddydd Gwener ym mynwent Denio.

Gwasanaethwyd gan y Parch W. Evans, Y Ficer. Y prif alarwyr oedd ei weddw, Mrs Roberts; Mr Hugh Roberts Lerpwl (mab); Mr a Mrs H. Jones Brecon, South Beach; Mr a Mrs Hancox Lerpwl; Mr a Mrs G. Griffiths, 22 Gaol Street, Pwllheli; Mr a Mrs W. Thomas. 33 North Street (merched a meibion yng nghyfraith); Mr W. T. Salsbury, Morfa Garreg; Mr W. H. Pierce (mab yng nghyfraith). Yr oedd yn bresennol ei wyrion a'i wyresau, Josephine Pat, Mary Clara, Michael, Twm, Pristine Salisbury; Mrs Pierce; Misses Beti Griffiths, Eileen Griffiths, Ann Griffiths, Philomena Griffiths a Mr G. J. Griffith a Miss Joan Roberts.