MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH MR. H. OWEN, GREENHILL, SOUTH BEACH.
Dydd lau wedi cystudd maith a chaled bu farw y boneddwr uchod yn 51 mlwydd oed.Yr oedd wedi bod yn America am amser lled faith, ac yno y goddiweddwyd ef gan ei afiechyd (cancer). Daeth adref yn gynar ddechreu haf, a chafodd ei briod y fantais o ofalu yn dyner iawn am dano yn ei wythnosau olaf, ac ni bu nurse erioed mor ffyddIon a gofalus â Mrs Owen.
Claddwyd ef yn y fynwent newydd ddoe (ddydd LIun). Angladd anghyhoedd ydoedd.
Yr oedd yn bresenol ei weddw, ei ddwy ferch a'i fachgen ieuengaf, ei dri brawd - Mr J. E. Owen, Caergybi; Mr Joseph Owen, Archadeiladydd, Menai Bridge a Mr Robert Owen, Leeds, y Proffeswr W. Lewis Jones, M.A., Bangor, brawd-yn-nghyfraith; Mr W. Lloyd, Portmadoc, brawd Mrs Owen; Mr John Williams, Caernarfon; diaconiaid eglwys South Beach (yr hon eglwys yr oedd Mr Owen yn aelod), Mr E. R. Davies, Cyfreithiwr; Mr D. Lloyd Humphreys, Cartrefle; Mr John Jones, Nantlle House, hefyd Mr J. T. Owen, Post office; Mr R. O. Jones, Ysgol y Cyngor; Mr W. Hughes, Morwylfa, a Mrs Ellis, Trefan. Cymerwyd gofal y gwasanaeth crefyddol yn y tŷ, yn y capel, ac ar Ian y bedd gan y Parch D. E Davies.
Y mae dau o'i feibion yn Canada ac un yn Australia, fel na allent hwy fod yn angladd eu tad ac yr oedd ei fam oedranus yn analluog i fod yn yr angladd oherwydd afiechyd.
Fe gydymdeimlir yn fawr a'r weddw ar plant yn eu trallod. Er fod Mrs Owen a'r plant yn preswylio yn y dref ers amser, nid oedd y diweddar Mr Owen mor adnabyddus oherwydd ei fod wedi treulio y blynyddoedd diweddaf yn America.