TAD YR YMGEISYDD LLWYDDIANUS YN MARW YR UN NOSON.
Dydd Iau bu etholiad am y sedd ychwanegol ar y Cyngor Sir yn rhanbarth deheuol Pwllheli. Wele'r canlyniad :-Hugh Pritchard (cyfreithiwr) .........203
James Williams (ironmonger) .........162
Mwyafrif ................................... 41
Cafodd Mr. Pritchard yn flaenorol ei fabwysiadu yn ymgeisydd y Blaid Ryddfrydol mewn prawf etholiad yn erbyn Mr. Cornelius Roberts. Ymladdai Mr. James Williams fel ymgeisydd annibynol. Gweithredai Dr. R. Jones Evans (y Maer) fel swyddog dychweliadol a Mr. A. P. Hughes, fel clerc.
Werth ddiolch i'r etholwyr o'r tu allan, dywedai Mr. Hugh Pritchard fod yn dda ganddo fod etholwyr y rhanbarth deheuol wedi dangos fod eu Rhyddfrydiaeth yn gadarn y tro cyntaf y rhoddwyd prawf arno; a'u bod yn ddigon craff i adnabod Toriaeth o dan ba gochl bynag y byddai yn ymdangos (cymeradwyaeth).
Diolchai Mr. Williams yn gynes i'r rhai oedd wedi ei gefnogi a hyderai y cai well cefnogaeth y tro nesaf (cymeradwyaeth).
Bu Mr Pritchard yn aelod defnyddiol ar y Cyngor Sir, dros Llaniestyn o'r blaen. Dydd Gwener derbyniodd lu o longyfarchiadau oddiwrth aelodau blaenllaw y Cyngor ar ei ddychweliad.
Nos Iau, ychydig oriau wedi i'w fab, Mr. Hugh Pritchard gael ei ddewis, bu farw Capten Hugh Pritchard, Sabrina, ar ol hir waeledd yn 82 mlwydd oed. Yr oedd Capten Pritchard yn wr adnabyddus iawn mewn cylchoedd morwrol yn Mhorthmadog a Phwllheli. Bu am flynyddau yn gapten y scwner Sabrina, enw yr hon a fabwysiadwyd ar ei breswylfod. Wedi ymneilltuo o'r mor pan ydoedd tua 50 mlwydd oed, agorodd fasnach ledr ym Mhwllheli, ac wedi hyny penodwyd ef yn assistant overseer a chasglydd trethi i Gorphoraeth Pwllheli, yn hon swydd a lanwodd gyda manylwch a gonestrwydd diamheuol am 16 mlynedd. Yr ydoedd hefyd yn aelod ffyddlon iawn o Eglwys Salem.
Gedy ar ei ôl weddw oedranus, Miss Mary Pritchard (merch); Mri. R. W. Pritchard, Pwllheli; Hugh Pritchard, Pwllheli; David Charles Pritchard, Porthmadog a William J Pritchard Birmingham (meibion). Bu yr angladd ddoe dydd Llun yn mynwent Denio (anghyhoedd).