CLADDEDIGAETH.

Prydnawn iau diweddaf cludwyd gweddillion y diweddar Mr. William Davies, Ironmonger, i orphwys i dŷ ei hir gartref i fynwent newydd Denio.

Yr oedd yr angladd o dan y drefn newydd, ac yn gyfyngedig i feibion yn unig. Wele yn canlyn drefn yr angladd :

Yr Hearse, Cerbyd 1af, Miss A. Davies, Miss Lizzie Davies, Mrs G. H. Williams, Mrs. Capt. Evans, Mrs. Capt. Seaborn Davies

2il Gerbyd, Mr. a Mrs. John Jones, Lerpwl, Mrs Williams, Hywyn, Capt. Evans, Craigmor, Mr. G. H. Williams, Bethesda

3ydd Cerbyd, Capt. Edwards, Nefyn, Mr. John Parry, Nefyn, Mr. John Davies, Pencaenewydd, Miss Williams, Nevin, Mrs. a Miss Lunt, Llandudno, Mr. a Mrs. Jones, Birkenhead,

Y gweinidogion a'r blaenoriaid, a'r cyhoedd yn dilyn. Gwasanaethwyd wrth y tŷ gan y Parchn. Edward Jones, Eglwys Bach, a W. G. Hughes, Criccieth; yn y capel yn Denio gan y Parchn. Edward Jones, J. Puleston Jones, M.A., a J. Rhydderch, ac ar lan y bedd gan y Parch. D. Thomas.

Yr oedd yn angladd lluosog a pharchus.

Yr undertaker ydoedd Mr. David Williams, Shop Pwlldefaid. Nos Su1 yn nghapel Seion traddodwyd pregeth goffa ar ei ôl gan y Parch Hugh Jones, D. D., Bangor, a chwareuwyd y Dead March ar yr offeryn gan Miss Lizzie Violet Owen, Carnarvon Road.
 

Yr Udgorn 29/01/1913