MARW SYDYN.
Brawychwyd y dref yn fawr gan y newydd fod Mrs Jones, priod Mr. Richard Jones, High Street, wedi marw yn dra sydyn yn mhreswylfod ei mab, yn Acrefair, lle yr oedd ar ymweliad.Yr oedd Mrs Jones tua 70 mlwydd oed, yn foneddiges hynaws a charedig, yn aelod dichlynaidd o Eglwys Penmount, ac yn fawr ei pharch yn y dref. Cymerodd yr angladd le yn Mynwent y dref ddydd Iau, y Parchn. Thomas Williams a H. H. Williams yn gwasanaethu.
Y prif alarwyr oeddynt Mr. Richard Jones (priod), Mr. John Pritchard Jones (mab), a Mrs Jones, Mrs Meurig Jones (merch), a Mr. Jones; Mri. Ellis Griffiths, Ship Inn; Elias Griffiths, Lerpwl; James Griffiths, Factory (brodyr); Thomas Griffiths, Melbourne Stores; John Griffiths, Factory; Robert Owen Griffiths, Fferyllydd; Mr. Francis, Fferyllydd, Caernarfon; Robert Hughes, King's Head Street; William Jones, Claremont; Capten Willoughby. Hugh Griffiths, Dr. R. Jones Evans.
Gofelid am y trefniadau gan Mr. William Evans, o Shop Pwlldefaid.