MARW TRIST GWRAIG IEUANC.

Prydnawn Llun, yn nhy ei mam yn Maesyllyn Terrace, bu farw yn dra disymwth trwy doriad gwaedlestr Mrs. Gwen Roberts, priod Private Abraham Roberts, Talcymerau Cottage, a hi yn 27 mlwydd oed.

Ymddengys ei bod wedi cael cyffyrddiad ysgafn o'r anwydwst ddiwedd yr wythnos, a chafodd ef drachefn yn drymach nawn Llun nes huno er pob ymdrech posibi o eiddo'r meddyg i'w hadfer. Gedy ar ei hol briod ieuanc a phlant bach mewn profedigaeth ddofn heb ei disgwyl.

Cydymdeimlwn a'i phriod sy'n ymladd yn Ffrainc ac a'r teulu oll yn awr ddu eu profedigaeth.

Yr Udgorn 23/10/1918