MARW GENETH FACH.
Yn blygeiniol foreu Iau, wedi gwaeledd byr, bu farw Dora, geneth fach Mr a Mrs Thomas Williams, High Street, a hi yn 7 mlwydd oed. Yr oedd yn ei chynefin iechyd foreu Mercher, ond tarawyd hi mor wael fel y bu farw ymhen ychydig oriau er pob medr o eiddo'r meddyg a'r teulu. Geneth fach bert a hardd o bryd ydoedd, ac yn hoff gan y plant.Claddwyd hi (angladd anghyhoedd) ddydd Llun yn mynwent Denio. Gwasanaethwyd gan y Parch. J. Puleston Jones, M.A.
Cydymdeimlir a'i rhieni trist yn y brofedigaeth ddofn.
Yr Udgorn 06/06/1917
CLADDEDIGAETH.
Ddydd Llun, Mehefin 4ydd, cymerodd claddedigaeth Eliza, geneth fach seith mlwydd oed Mr a Mrs Thomas Williams, High Street, yn mynwent Denio. Gwasanaethwyd gan y Parchn. Thomas Williams, The Elms, ac R. R. Williams, Tabernacl.Anfonwyd blodau dorchau heirdd gan y rhai a ganlyn :- Mr a Mrs Evan Roberts, Mitre Place; Miss Jones, Llys Pedr; Nain ac Ela, Gors; Little Friend Mary Catherine, Penmount; Elizabeth Ellen. Sand Street; Mary Jones, Gors ; Hernwell ac Ann E. Roberts, Gadlys; Athrawon a Phlant Ysgol Bibanod Troedyrallt.
Dymuna'r teulu ddiolch yn garedig a chywir i'r cyfeillion lluosog ddangosodd, trwy lythyrau ac amryw ffyrdd eraill, eu cydymdeimlad รข hwy yn eu profedigaeth.