CLADDEDIGAETH.

Ddydd Iau dygwyd gweddillion y diweddar Mr Arthur Parry Jones, Abergele (gynt Arfon Temperance, Penlan Street), i'w gladdu gyda'i briod yn mynwent Denio. Collodd ei briod (merch Mr a Mrs Moss, Llanengan), flwyddyn yn ôl yn dra disymwth, a bu i'r amgylchiad trist ddweyd yn fawr arno.

Gwasanaethwyd gan y Parch. J. Puleston Jones, M.A. Cydymdeimlir a'r teulu yn eu galar.

Crwydrai'r Gwanwyn bant a bryn,
    Gan daenu rhoddion Duw
Ond newid byd wnaeth ARTHUR fwyn
    Am wlad yr hafddydd byw.

Esmwyth hûn yn Erw Duw
    A gaffo ef mewn hedd,
Hyd nes y daw yr hyfryd ddydd
    Y cwyd yn fyw o'i fedd.

WLE.

Yr Udgorn 02/05/1917