DAMWAIN ANGEUOL.
Brydnawn Iau cyfarfu Mr William Roberts, Paentiwr, 1, Carnarvon Road, a'i ddiwedd mewn modd dychrynllyd iawn trwy syrthio oddiar do tŷ a adgyweirid yn Lleyn Street, Yr oedd y disgyniad tua 60 troedfedd, a bu'r effeithiau yn angeuol iddo ymhen ychydig oriau.Genedigol ydoedd yr ymadawedig o fro Eifionydd, ond daeth yn un o breswylwyr y dref drwy iddo fyw yma am flwyddi. Yr oedd yn 63 mlwydd oed, ac yn wybyddus iawn i lawer yn y dref fel cymeriad tawel a diabsen. Bu'n ffyddiawn nodadig yn Ysgoldy y Traeth.
Cymerodd ei angladd le, yr hon oedd yn anghyhoedd, yn mynwent newydd Denio ddydd Llun. Gwasanaethwyd gan y Parch. J. Puleston Jones, M.A. Cydymdeimlir a'r plant yn eu profedigaeth chwerw.
Ceir hanes y trengholiad mewn colofn arall.
Yr Udgorn 24/01/1917
TRENGHOLIAD.
Dydd Sadwrn, cynhaliodd Mr. O. Robyns Owen (Crwner), drengholiad yn Pwllheli. Achos William Roberts, 63 mlwydd oed, 1, Carnarvon Road, 'Paentiwr.' Bu iddo ef syrthio o ben y to pan yn adgyweirio ffenestr yn y tŷ y dydd lau blaeaorol a marw mewn canlyniad.Tystiai Mrs. Thomas, 9, Ala Road, ei bod wedi gweled y trangedig yn llithro oddiar do y tŷ, a dywedai. Mr. T. H. White ei ¡ fod ef wedi cael y trancedig yn anwybodol yn nghefn y tŷ. Yr oedd wedi syrthio i gychwyn ar ben to y gegin gefn, ac yna i'r cefn.
Tystiai Dr. R. Jones Evans fod y dyn wedi marw mewn canlyniad i'r ysgytwad a gafodd yn y godwm. Nid oedd arwydd ei fod wedi cael ymosodiad o'r parlys o gwbl.
Dychwelwyd rheithfarn yn unol a thystiotaeth y meddyg.