MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH CADBEN ARTHUR CARADOC JONES.
Nos lau diweddaf, wedi ond ychydig ddyddiau o waeledd, bu farw Cadben Arthur Caradoc Jones, mab y diweddar Cadben Jones (Bo'ina), a Mrs Jones, Abererch Road.Gwasanaethai gyda'r agerlong "Good Hope," a thra newydd gyrhaedd y porthIadd yn Ffrainc gyda llwyth o nitre canfyddwyd fod tân wedi tori allan yn y llwyth, a neidiodd yntau i lawr gyda'r bwriad o'i ddiffoddi, a derbyniodd niweidiau difrifol. Ychydig ddyddiau'n ôl daeth gartref, ac aeth i orwedd, a bu farw yn hynod sydyn mewn canlyniad i'r niweidiau dderbyniodd.
Oddeutu tair blynedd yn ôl priododd â Miss Jones, merch Mr. a Mrs. Jones, Fruit Shop, High Street. Yr oedd yn 46 mlwydd oed, ac wedi morio ar hyd ei oes.
Dydd Llun rhoddwyd i dawel orphwys yr hyn oedd farwol o hono yn mynwent newydd Denio (preifat). Gwasanaethwyd yn y tŷ, yn y capel, ac ar Ian y bedd gan y Parchn. J. Puleston Jones, M.A., ac E. Mostyn Jones. Yr oedd trefn yr angladd fel y canlyn. Y gweinidogion a enwyd ynghyd a meddyg y teulu, Dr. S. W. Griffith, Mri. David Griffith, J W. Lewis, F. H. Bowen, a J. J. Edwards, yn cynrychioli Seion Mri G. C. Roberts, Maer, D. Lloyd Jones, Richard Williams, a J. O. Williams, yn cynrychioli Penmount Mri R. Jones, argraffydd, Evan Jones, Caerhydderch, J. Humphreys (Dicks), cymydogion; yr elor gerbyd; Mr. O. Jones a Mr. J. O. Jones (tad a brawd-yn-nghyfraith); Mr. J. R Lloyd, Bee Hive (cyd-frawd-yn-nghyfraith); Mr. W. Jones, saddler (ewythr); Mr. Hugh Robets, Brynaerau (cefnder) Capt. Wilson, Nevin (cefnder); Capt. J. Owen, The Cottage; Capt. Thomas, Llangybi; Capt Roberts, dock-master, Caerdydd; Mr. Hugh Griffith a Mr. R. T. Williams, Bon Marche, undertakers.
Derbyniwyd garlantau oddiwrth Miss Madge Jones, Southport (chwaer) Mrs. Capt. Jones (ei anwyl briod); Mr. a Mrs. Owen Jones (tad a mam Mrs Jones) Mr. J. O. a Mrs. Bessie Jones a'r plant; Mr. J. R. Lloyd a Mrs. Frances Lloyd a'r plant; Misses Nell a Dora Williams, Brynhelyg; Mrs. Griffith, Crown Hotel. Torwyd cwlwm tyner yn mlodau dyddiau priodasol. Yr oedd efe yn gâr a chyfaill union, ac edmygid ef gan gylch, eang o gyfeillion. Meddai yspryd dyngarol ac haelionus.
Cydymdeimlir yn ddwfn a'i anwyl briod, ei anwyl fam, a'i chwaer, y rhai oeddynt bron heb ddarfod profi melusder y pren sydd yn melysu dyfroedd chwerwon Mara yn eu profedigaeth lem o golli ei anwyl frawd oddeutu mis yn ôl. "Gostyngodd Efe fy nerth ar y ffordd, byrhaodd fy nyddiau" Nodded priod y weddw a thad yr amddifaid fyddo drostynt yn eu galar. — GALARUS.
Bu dymmor yn hwylio'r heli ;—yn awr
Mewn hedd ca'dd angori ;—
Yn iach a llon uwch y lli'
Glaniodd yn Nhir Goleuni. BRYNHELYG.