CODWM ANGEUOL O BEN Y GRISIAU.
Damwain i Hen Wraig ym Mhwllheli.
Nawn Gwener bu i Mr. Robyns Owen (Trengholydd), gynal ymchwiliad i achos marwolaeth Mrs Catherine Jonee, 1. Edward Street, South Beach. Tystiodd ei merch (Mrs. Gould) fod ei mam yn 78 mlwydd oed. Pan oedd yn myned i'w gwely nos Fawrth syrthiodd yn wysg ei chefn o ben y grisiau, a bu farw ddydd Mercher.Yr oedd yn cwyno ers tro gan benysgafnder ac yr oedd yn dueddol i syrthio. Am y rheswm hwnw bu iddi hi ei chymeryd i fyw i'w thy.
Tystiodd Dr. O. Wynne Griffiths fod yr hen wraig wedi marw mewn canlyniad i'r godwm, a dychwelwyd rheithfarn yn unol a hyny.