MARWOLAETH.
Ddydd Iau,yn sydyn iawn, bu farw Mrs. Lizzie Ann Jones, priod Mr. A. Parry Jones, Arfon Temperance, Penlan Street, a hi yn 37ain mlwydd oed.Genedigol oedd o Lanengan. Daeth i drigo i Bwllheli o Fae Colwyn oddeutu tair blynedd yn ôl.
Cymerodd yr angladd le ddydd Llun yn mynwent Denio. Yr oedd y rhai a ganlyn yn bresenol : Mr Arthur P. Jones (priod); Mr a Mrs Moss, Llanengan (rhieni); Mr W. S. Moss, Old Colwyn (brawd), Miss Moss, Llanengan (chwaer); Mr a Mrs D. P. Jones, Old Colwyn (brawd ynghyfraith); Mr a Mrs Edward Roberts, Old Colwyn (brawd a chwaer ynghyfraith); Mrs Hughes, Llysfaen a Mrs Jones, Deganwy (chwiorydd ynghyfraith) Mr E P. Jones, Deganwy, Mi O. P. Jones, Abergele, a Mr W. P. Jones, Llysfaen (brodyr y'nghyfraith) Mrs McKevitt (modryb); Mr a Mrs Hugh Williams, West End (ewythr a modryb); Mr J. T. Moss, LIanengan (cefnder); Mr Robt. Griffith, Creigir Goch, Llanengan; Mr Robt. Thomas, Ty'nymorfa, a swyddogion eglwys Salem.
Y Parch Thos Williams, The Elms, wasanaethai yn y tŷ a'r fynwent. Yr oedd y blodeu-blethi yn lluosog.
Cydymdeimlir a'r teulu yn eu profedigaeth lem.