MARWOLAETH SYDYN.

Nos Sadwrn diweddaf brawychwyd trigolion y dref gan y newydd trist am farw sydyn Mrs Toleman, priod y Cynghorydd W. M. Toleman, Britannia House, High Street.

Yr oedd Mrs Toleman yn ei chynefin iechyd, ac yn cyflawni dyledswyddau y tŷ, pryd y daeth y diwedd iddi mor anisgwyladwy nos Sadwrn diweddaf.

Cydymdeimlir yn fawr iawn ag ef a'i ferch fach yn eu profedigaeth lem.

Yr Udgorn 10/03/1915


ANGLADD MRS. TOLEMAN.

Ddydd Mercher cymerodd angladd Mrs. Maggie Mary Toleman, priod y Cynghorydd W. M. Toleman, Britannia House, le yn mynwent Denio.

Bu Mrs. Toleman farw yn dra disyfyd y Sadwrn blaenorol, a hi ond 57 mlwydd oed.

Gwasanaethwyd gan y Parchn. J. Edwards, Ficer, a T. Woodings, curad. Cludiwyd yr arch, gan nifer o filwyr yn cynwys Mri. Tal Jenkins, Albert Morris, R. H. Williams, W. James, a S. Jenkins. Yr oedd yn bresenol yn yr angladd Mri. W. M. Toleman (priod), J. R. Toleman, Pwllheli; David Lewis, Lerpwl (brawd), T. D. Toleman, Caernarfon: H. J. Toleman, Caerdydd; E. B. Ellis, Wrexham; C. O. Coates, Bangor; Samuel Lloyd, Bee Hive; R. T. Roberts, Paragon; Thomas Hughes, Nanney Place; Watkin Williams, John Ellis, R. Mason Jones, ac R. T. Williams, Bon Marche, yr hwn a, ofalai am y trefniadau. Derbyniwyd nifer fawr o flodau o wahanol leoedd.

Cydymdeimlir yn fawr a Mr. Toleman ac Elsie fach, ei unig ferch, yn nghyd a Mrs. Lewis a Mr. Lewis, mam a brawd yr ymadawedig yn Lerpwl.

Dymuna Mr. Toleman gydnabod y cydymdeimlad dwfn a ddangoswvd tuag ato trwy lythyrau ac ymweliadau personol gan eu bod yn rhy luosog i'w hateb.

Yr Herald Gymraeg 16/03/1915