MARWOLAETH SYDYN.
Achoswyd cryn fraw yn y dref ddydd Iau gan y newydd prudd fod Mrs. Margaret Edwards, Carlton, Cardiff Road, wedi marw yn dra sydyn mewn cerbyd modur ger Clynnog, a hi yn 52 mlwydd oed.Gweddw ydoedd i'r diweddar Mr. William Edwards, Shop Crugan.
Nid oedd iechyd Mrs. Edwards ya dda er's tro bellach, ac aeth hi a Gwilym, ei hunig fab, mewn cerbyd modur i breswylfod ei chwaer i Gonwy, pryd y gostyngwyd ei nerth ar y ffordd ac y byrhawyd ei dyddiau er dirfawr loes i'w hunig blentyn, perthynasau ac amryw gydnabyddion yn y dref. Yr oedd ei bywyd yn un prydferth ac urddasol, a'i pherson oliaeth hardd yn ddelw gwirioneddol o'r wir foneddiges.
Dydd Sadwrn cymerodd ei chladdedigaeth le, yr hon oedd anghyhoedd, yn mynwent Deio. Gwasanaethwyd yn y tŷ gan y Parchn. T. Williams, Elms, ac R. Conway Pritchard, ac yn y fynwent gan y Parch. J. Edwards, Ficer.
Cydymdeimlwn a'i mab ac a'r perthynasau yn eu profedigaeth lem.