MARWOLAETH.

Ddydd lau, yn ei phreswylfod yn Birkenhead, bu farw Mrs. Rachel Jones, anwyl briod Mr Henry Jones ('Rallt Fawr gynt), a hi yn 41 mlwydd oed.

Merch ydoedd yr ymadawedig i'r diweddar Mr. a Mrs. William Evans, Carriwr, Sand Street.

Dioddefodd ei chystudd yn dawel a gwrol; ac yn deilwng o un yn meddu ymddiriedaeth lwyr yn yr anweledig. Cymeriad rhagorol ydoedd yn ymhob rhinwedd sy'n prydferthu bywyd natur. Yr oedd yn addfwyn a chymwynasgar, a phob amser yn llawen wrth gyflawni ei dyledswyddau beunyddiol. Bu yn briod tyner a gofalus, a bydd ei hymadawiad cynar yn loes i lu o'i charedigion.

Deuir a'i chorff yma yfory (dydd Mercher), a chymer ei chladdedigaeth, yr hon fydd yn gyhoeddus, am 2 o'r gloch oddiwrth orsaf y rheilffordd, yn mynwent Denio.

Cydymdeimlwn a'i phriod ac a'i pherthynasau yn y dref yn nyfnder eu profedigaeth.

Yr Udgorn 04/12/1918