MARWOLAETHAU SYDYN.

Yn blygeiniol foreu Llun, wedi byr ysgafn gystudd, hunodd May, geneth fach Mr. a Mrs. Owen Thomas, Glanafon Terrace, Sand Street, a hi namyn pum' mlwydd oed.

Ni chafodd y teulu weini ond ychydig arni gan mor ddirybudd y symudwyd hi ymaith. Mae llymder y brofedigaeth i'w weld yn amlwg yn y ffaith mai blodeuyn tyner yn dechreu dod i'w pharadwys ei hun ydoedd, a greddf y teulu yn dod i anwylo ei phertrwydd.

Cydymdeimlwn a'r holl deuluoedd yn eu trallodion chwerw a dwfn.

Mor wir heddyw onide y gwireddir yn hanes yr hil ddynol ddyfnder meddwl yr englyn canlynol

"Gall gwr fod neithiwr yn iach,— y boreu
    Heb arwydd amgenach,
Yfory'n annifyrach,
Drenydd ar obenydd bach!"

Yr Udgorn 30/10/1918