MARW TRIST.

Foreu Sadwrn, yn dra disyfyd ac anisgwyliadwy, bu farw Mr Griffith Williams (Troedyrallt gynt), Sand Street, ac efe yn 68 mlwydd oed.

Ymddengys ei fod yn parotoi ei hun at ei orchwyl dyddiol cyn boreufwyd pryd y syrthiodd i lewyg ac na ddaeth i ymwybyddiaeth drachefn. Flynyddoedd yn ôl cyfarfu yr ymadawedig â damwain dost tra'n dilyn ei orchwyl yn chwarel Carreg yr Imbyll. a gorfu iddo mewn canlyniad dori ei fraich ymaith.

Yr oedd yn gymeriad gonest a thrylwyr iawn, a'r elfen gymdeithasol yn gref yn ei natur. Tynai fêl allan o bob ysgwrs, a gwleddai yn galonog ar bob maeth a gai mewn ymddiddanion rhydd. Hoff ydoedd gan bawb oherwydd sirioldeb a phertrwydd ei ymadroddion. Yr oedd yn hynod selog yn eglwys Penmount, ac ni chollai ond odid Sabbath mewn blwyddyn yn Ysgol Sul y Traeth. Ceid ei ffyddlondeb i'r cyfryw yn ddihareb.

Cymerodd y gladdedigaeth gyhoeddus le heddyw (dydd Mawrth) yn mynwent Denio. Gwasanaethwyd yn y tŷ gan y Parch. J, Puleston Jones, M.A., ac yn y fynwent gan y Parch. J. Edwards, Ficer.

Cydymdeimlir a'i deulu yn y brofedigaeth. Yr oedd y trefniadau o dan ofal Mr M. M. Williams, Emporium.

Yr Udgorn 16/01/1918