MARW A CHLADDU.

Boreu Mercher, ar ôl byr cystudd, bu farw Miss Ellen Williams, Abererch Road (chwaer Mr T. Frederick Williams, West End), a hi yn 60 mlwydd oed.

Bu fyw oes lân a bucheddol, a cheid gair da i'w hymarweddiad gan gymydog a char iddi. Yr oedd yn Eglwyswraig selog a deallgar.

Cymerodd ei hangladd (anghyhoedd) le ddydd Sadwrn yn mynwent Denio. Gwasanaethwyd gan y Parch. J. Edwards, B.A., y Ficer. Cydymdeimlir a'i pherthynasau yn eu profedigaeth chwerw.

Yr Udgorn 11/04/1917