MARWOLAETH.
Boreu Sadwrn, Mawrth 24ain, bu farw Mr Samuel Griffiths, Leeds House, ac efe yn 37 mlwydd oed. Daeth i fyw i'r dref rhyw chwe' mis yn ôl o Rhyl, ond nid oedd yn rhyw gryf ei iechyd er's tua dwy flynedd.Mae Mrs Griffiths, ei weddw drallodus, yn gofalu am fasnachdy esgidiau y Mri Stead and Simpson.
Cymerodd yr angladd le ddydd Mercher yn mynwent Denio. Gwasanaethwyd gan y Parch J. Edwards, B. A., Ficer.
Gedy weddw a phedwar o blant i alaru ar ei ôl, â'r rhai y mae cydymdeimlad dyfnaf.