MARWOLAETH DRIST.
Heddyw (dydd Mawrth), yn dra disymwth, bu farw Mr William Jones, Talcymerau, tad Mr Griffith Jones, Montford, Ala Road. Ymddengys ei fod yn dilyn ei orchwyl, er yn cwyno ychydig, ar fferm berthynol i Mr William Roberts, Oatlands Dairy, South Beach.Aeth oddiwrth ei waith yn y boreu am ei ginio, a phan ar fin eistedd wrth y bwrdd, syrthiodd yn farw.
Cydymdeimlir yn fawr a'i briod a'r plant yn eu profedigaeth sydyn a chwerw.