MARWOLAETH GWR IEUANC.
Mae genym yr wythnos hon y gorchwyl prudd o gofnodi marwolaeth y gŵr ieuanc tawel Mr John Jones, Station Road (mab y diweddar Mr Ebenezer Jones, Lleyn Street), yr hyn a gymerodd le nos Fawrth diweddaf ac efe yn 30 mlwydd oed.Ychydig tua blwyddyn yn ôl ymbriododd â Miss G. Jones, Station Road, ac y mae hithau heddyw yn ei gweddwdod cynar yn hiraethu am un hoff.
Yr oedd yr ymadawedig yn adnabyddus iawn yn y dref ar gyfrif hynawsedd ei natur, a ymddygiad dihymhongar wrth gyfarch pawb ddeuai i gyffyrddiad ag ef. Cafodd gystudd hir a phoenus, ond cadwodd ei hun trwy'r gofid i gyd heb rwgnach dim. Yr oedd ganddo luaws o wir gyfeillion yn Mhwllheli ac yn y Deheudir, lle y bu'n gweithio am flwyddi, a byddant yn teimlo chwithdod mawr ar ôl cyfoed mor ddiwenwyn.
Cymerodd yr angladd (anghyhoedd) le ddydd Sadwrn yn Mynwent Denio. Gwasanaethwyd yn y tŷ gan y Parch. J. Rhydderch, ac yn y fynwent gan y Parch. J. Edwards, B.A., Ficer.
Duw fyddo'n nodded i'w weddw drist yn awr ei phrofedigaeth ddu a'r teulu oll yn eu dwfn alar.