MARWOLAETH.

Drwg genym gofnodi marwolaeth Miss Sarah Roberts (gynt o 20, Kingshead Street), Bootle, Liverpool, yr hon a fu farw boreu Mawrth diweddaf, a hi yn 50 mlwydd oed.

Symudodd o Pwllheli ers rhai blynyddau bellach i Loegr i fyw. Yr oedd yn gymeriad hoffus a boneddigaidd, ac o ysbryd cymwynasgar.

Ddydd Gwener cludwyd ei gweddillion marwol yma i'w claddu yn mynwent Denio. Gwasanaethwyd gan y Parchn. J. Edwards, ficer, a T. Woodings, B.A., ciwrad.
 
Cydymdeimlir yn fawr a'r teulu yn eu profedigaeth chwerw, a nodded y Goruchaf a fo drostynt.

Yr Udgorn 23/06/1915