MARWOLAETH SYDYN.
Gyda gofid dwys y croniclwn farwolaeth Mrs. Williams, priod Mr. G. H. Williams, rheolwr y Metropolitan Bank, Bethesda (a merch y diweddar Mr. William a Mrs. Davies, Ironmonger, High Street).Cymerodd yr amgylchiad pruddaidd le yn dra sydyn foreu Iau diweddaf, yn ei phreswylfod yn Methesda, yn 52 mlwydd oed. Yr oedd yn wraig dawel a rhinweddol iawn, yn fawr ei pharch gan yr ardal a chan y gwirionedd ei hunan.
Dydd Llun, Mawrth 1af, cludwyd ei gweddillion i orphwys i fynwent Denio (cynhebrwng preifat). Gwasanaethwyd gan y Parchn. Arthur Davies a T. Woodings, B. A.
Gedy briod, mab, a dwy ferch i alaru ar ei hôl. Cydymdeimlir yn fawr a'r teulu ac a'r perthynasau oll yn eu profedigaeth sydyn a chwerw.