ANGLADD HEN ORSAF FEISTR.
Dydd Mawrth, yn mynwent Denio, Pwllheli, claddwyd Mr. Benjamin Williams, yr hwn fu farw yng Nghroesoswallt lle y bu yn gwasanaethu fel gorsaf feistr. Bu hefyd yn flaenorol yn orsaf feistr ym Mhwilheli a manau eraill, ar linell y Cambrian.Yr oedd yn 58 mlwydd oed.
Gwasanaethwyd gan y Parch. T. Woodings. curad, a'r Parch. E. Davies, Manceinion.
Y prif alarwyr oeddynt Mri Thomas, a Benjamin Williams (meibion), Mr. Hudson (mab-yng-nghyfraith), Mr Williams (brawd), a'r personau canlynol yn cynrychioli'r rheilffordd; yr Arolygydd Ridge, Mr. H. Jones, traffic agent, Towyn; Godsoll, Barmouth Junction; Mr. Willings, Barmouth; Mr. Humphreys, Harlech; Mr. George, gynt o Harlech; Mr. Jones. Penrhyndeudraeth; Mr Jones, Porthmadog a dau o r staff, Mr. Goodwill, Criccieth; Mr Owen, Afonwen; Mr. Pugh, Afonwen a Mr Jones, Pwllheli, a'r holl staff, yr hwn a ofalai am drefniadau yr angladd. Anfonwyd blodau gan Mrs. Williams, y weddw, Mr. a Mrs Williams, Cleveland; Mr a Mrs Gibeons, Oswestry; Mr a Mrs Sims, a'r teulu, Mr a. Mrs Fellow a'r teulu Mr. a Mrs Felton a'r teulu; Mr Hodson ac eraill.