MARWOLAETH.

Ddydd Iau diweddaf, wedi cystudd blin, bu farw Miss Pollie Roberts, anwyl ferch Mr. Richard Roberts, Abererch Road, a chwaer i'r Parch. W. Philip Roberts, Heu Golwyn, a hi ond deunaw mlwydd oed.

Rhoed ei gweddillion i orffwys yn mynwent Denio ddydd Sadwrn. Gwasanaethid wrth y tŷ gan y Parch E. Mostyn Jones, gweinidog Seion, a'r Parch. W. G. Hughes, Criccieth, ac yn y fynwent gan y Parch. J. Edwards, ficer, a'r Parch. E. Mostyn Jones.
 

Yr Udgorn 10/06/1914