Diwedd Trist Brodor o Bwllheli.
Tuag un-ar-ddeg o'r gloch fore Gwener, cafwyd hyd i Mr. Owen Davies. Abererch Road. Pwllheli, hwsmon yn Yokehouse yn gorwedd yn anymwybodol mewn maes perthynol i'r fferm.Gadawodd y fferm tua phump o'r gloch nos Iau i'r amcan o ddod adref i Bwllheli, a bwriadai ymweled a llyn oedd yn un o'r meusydd ar ei daith.
Bu farw tua naw o'r gloch, nos Wener. yn ei gartref. Y tebygolrwydd ydyw iddo gaol ergyd o'r parlys. Bu felly yn gorwedd dros y nos yn y maes agored am 18 awr.
Yr oedd yn 69 mlwydd oed.