ANGLADD.

Ddydd Iau diweddaf, hebryngwyd yr hyn oedd farwol o Mrs Jane Williams, Rhiandy, Ala Road (priod y diweddar Mr. Hugh Williams, Glandwr), i orffwys yn mynwent Denio - angladd anghyhoedd.

Gwasanaethwyd yn y tŷ ac yn y fynwent gan y Parchn.J. Rhydderch a Henry Rees.

Yr undertaker oedd Mr. Edward Williams, Shop Glasfryn.

Yr Udgorn 14/05/1913