PWLLHELI.

TRENGHOLIAD.

Bu farw Mrs Evans, athrawes Bryncroes, dan amgylchiadau y bu rhaid cael trengholiad, o flaen Dr Hunter Hughes, Pwllheli, y dydd Llun dilynol.

Aeth Mr Evans allan ddydd Gwener yn ol ei arfer, ac ar adegau felly, arferai Mrs Evans gloi y drws, ac felly y noson yma.

Pan y dychwelodd, tua banner awr wedi naw, ni chai ryddfynediad fel arfer. Trwy hir guro, caed ateb gwanaidd gan Mrs Evans nas gallai agor. Bu raid, gan hyny, dori i fewn, a chaed hi yn gorwedd ar lawr, ac yn amlwg wedi cael codwm gyda saucepan ar ei chorph. Aeth yr Heddgeidwad Jones, Sarn, i chwilio am y Meddyg Thomas, Bottwnog, a bu y drancedig fyw mewn gwendid mawr hyd yn foreu y dydd canlynol, pan y bu farw.

Yn y trengholiad, gweithredai Mr Edward Roberts fel arweinydd, pan y dychwelwyd y rheithfarn o "Bu farw vn ddamweiniol trwy gael codwm."

ANGLADD MRS EVANS, BRYNCROES.

Cyfeirio yr ydym at Mrs Ellin Evans, anwyl briod Mr J. T. Evans, athraw Ysgol y Bwrdd, yn Bryncroes.

Deallwn bod hithau yn gweithredu fel athrawes. Er ei bod pan y bu farw yn 59 mlwydd oed, ac er yn enedigol o Fangor, ac yn un o deulu y diweddar enwogion Dr O. Thomas a. Dr J. Thomas, oherwydd treulio rhai blynyddoedd yn Mhwllheli, mewn cylch o ymddiried, yno y dewiswyd lle claddfa y teulu, ac yma y gwnaed y gymwynas olaf iddi mewn angladd anghyhoedd, ddydd Mawrth.

Am gysylltiadau teuluaidd Mr Evans, gwyddys ei fod yn berthynas cyfartal agos a'r Mri John Evans, (gynt o Swyddfa'r "Herald"), W. Evans, ac E. W. Evans, Dolgellau, a.y., ac wedi gwasanaethu y swydd o athraw am lawer o flynyddoedd.

Yr Herald Gymraeg 23/02/1897