MR. EVAN PRICHARD, TAI COCHION BACH, PWLLHELI.

DAMWAIN ANGEUOL.

Evan Prichard, maen-gloddiwr, a fuasai yn arferol o weithio yn Nghraig yr Embill, yn agos i Bwllheli, dros y pedair blynedd ar bymtheg ddiweddaf, a gyfarfu â dygwyddiad angeuol ar brydnawn dydd lau, yr 8fed o Awst diweddaf. Oddeutu pedwar o'r gloch y prydnawn dywededig, yr oedd ef ac un Daniel Roberts wrth y gwaith o chwythu y graig; yr ysgyren {match) a daniwyd, a'r ddau a gymrnerasant y gofal arferol rhag niwed, trwy bìygu i lawr yn un â'r ddaear, un tua lO llath, a'r llall tuag 60 llath ymaith. Pan gymmerodd yr ergyd le, dernyn o gareg oddeutu 20 pwys a hedodd heibio Daniel Roberts, ac a darawodd Evan Prichard ar ei ddwyfron, a thorodd ddwy o'i asenau.

Dygwyd ef adref, ac er iddo gael cynnorthwy meddygol yn ddiattreg, bu farw yn mhen awr a hanner. Ei farwolaeth a achoswyd, mae yn debyg, trwy rediad gwaed y tu fewn i'w gorfF, yr hwn nis gellai y meddyg ei attal.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Rhagfyr 1839.