CRICCIETH.

MARWOLAETH MISS RAHEL JONES.

Boreu ddydd Sadwrn, hunodd y chwaer ieuanc uchod, yr hon a breswyliai yn 18, Marine Terrace, yn 28 mlwydd oed.

Cafodd gystudd maith, ond dioddefodd y cwbl yn dawel.

Yr oedd yn aelod ffyddlawn a dichlynaidd o eglwys y Capel Mawr. Dydd Gwener, cafodd angladd anghyffredin o barchus. Gwasanaethwyd wrth y ty ac ar lan y bedd gan y Parch W. Williams.

Yr Herald Gymraeg 20/04/1897