MR. ROBERT ROBERTS, TY'N DDOL, LLANYSTUMDWY.
Collodd ardal Llanystumdwy un o'i bechgyn addfwynaf ym marwolaeth Mr Bob Roberts, Ty'n Ddol (gynt o Bensarn, Rhoslan). Ye oedd yn gyfaill da i bawb, a phawb yn gyfaill iddo yntau. Dioddefodd yn dawel gystudd trwm a chaled, a hynny am faith flynyddoedd. Ni chlywyd ef yn cwyno un amser, eithr parhaodd ei wen a'i sirioldeb, oedd mor nodedig ohono hyd y diwedd; a'i ofal a'i bryder beunydd yn fwy am arall nag amdano'i hunan.Mawr fydd y bwlch ar ei ôl ar yr aelwyd, yn eglwys y Tabernacl (lle yr oedd yn ysgrifennydd), ac yn yr ardal i gyd. Torwyd ef i lawr ym mlodau ei ddyddiau (nid oedd on 31 mlwydd oed), ond pery'r cof amdano, fel perarogl yn y cylchoedd hyn.
Y mae cydymdeimlad dyfnaf ardal gyfan yn estyn allan i'w dad a'i fam a'i chwaer, a fu'n gweini mor ddiflino a chariadus iddo, yn eu galar a'u hiraeth. Dymunant hwythau ddiolch o galon i bawb am eu caredigrwydd a ddanghoswyd iddynt yn eu profedigaeth lem.
Bu'r angladd (anghyhoedd) prynhawn Sadwrn, Rhagfyr 7. Gwasanaethwyd yn y tŷ ac yn y fynwent yn Chwilog gan ei weinidog, y Parch. J. T. Williams.
Y galarwyr oeddynt : Mr a Mrs John Roberts (tad a mam); Miss Katie Roberts (chwaer); Mrs Ellen Williams, Hen Felin; Mr David Roberts, Garndolbenmaen; Mr William J. Jones, Cefn Collwyn; Mar a Mrs Humphrey Jones, Ty Capel Engedi; Mr a Mrs Humphrey Williams, Carmel House, Tanygrisiau; Mr a Mrs Charles Roberts, Brittania; Mr a Mrs Henry Roberts, Tai'r Efail, Chwilog; Mr a Mrs Richard Williams, Castell Mawr, Mynydd Nefyn; Mr a Mrs W. Pritchard, Min y Mor, Penygroes, Chwilog; Mr Robert Jones, Efail Plas Hen; Mr Thomas Jones, Bryn yr Efail, Chwilog; Mr Llewelyn Pritchard, Rhosgyll Bach, Ynys (ewyrthod a modraboedd). Mr Robert Roberts, Garndolbenmaen; Mr William Jones, Cefn Collwyn; Mrs Nettie Hughes, Criccieth; Mr W. D. Roberts, Muriau Bach; Mr Humphrey Roberts, Fourcrosses; Mr Charles H. Roberts; Mr Hugh Jones, Gaerwen House Criccieth; Mr Robert Roberts, Bron Eifion Lodge (cefndryd a chyfnitherod). Mrs Morris Williams, Gwiga, Rhoslan; Dr. Rees Prytherch, Criccieth; Mr John Roberts, Cae Coch, Mr Hugh Hughes, Tan Lon; Mr Harrison Jones, Criccieth; Capt. Pritchard, Nant; Mr William Jones, Tyddyn Madog Goch; Mr Osborne Jones, Gwyndy; Mr J. Griffith Jones, Penrallt; Mr William Jones, Ty Rhos, Llithfaen; Mr William Jones, Maen y Wern; Mr Owen Rowlands, Tyddyn Sianel; Mr John E. Parry, Hendre, Rhoslan; Mr William S. Jones, Ty'n Llan.