CAPEL Y BEIRDD Y DIWEDDAR W. IVOR JONES, TU HWNT I'R AFON (CAPEL Y BEIRDD).
Chwith ydyw gorfod rhoddi'r gair oer diweddar o flaen enw'r brawd annwyl hwn, yr hwn a ymadawodd a'r ddaear hon bore Sul, Ebrill 15eg. ac efe ond 24 oed, er galar mawr i'w dad a'r teulu annwyl yn Nhyhwnt-i'r- afon, ac i bawb a'i hadwaenai. Bedyddiwyd ef ar brynhawn braf yn Awst, 1914, yn Afon Dwyfach, a chadwodd ei broffes yn lan a gloew hyd ei fedd.Daearwyd yr hyn oedd farwol ohono dydd Mercher, EbriIl 16, ym Mynwent Gyhoeddus Chwilog, lle yr huna llu o drigolion ardal y Beirdd. Gwasanaethwyd yn y tŷ ac ar lan y bedd gan ei weinidog, y Parch. T. M. Reed. Preifat oedd yr angladd.
Heb ddefnyddio gormodaeth, anhawdd oedd cwrdd a bachgen ieuanc o ragorach cymeriad. Yr oedd yn barod i bob gwaith da, yn ei ffordd dawel ei hun. Yr oedd yn un o'r rhai mwyneiddiaf, ac eto yn ddigon gwrol i wrthwynebu drwg ymha ffurf bynag y cynhygiai ei hun iddo. Perthynai iddo nodweddion prydferth iawn. Yr oedd yn gymeriad gwastad iawn—bob amser yr un fath gyda gwen eiriol ar ei wyneb. Nid oedd yr eithafol yn perthyn iddo, ond y crefyddwr, gwastad a chyson. Nodwedd amlwg arall oedd ffyddlondeb, byth yn esgeuluso ei waith tymhorol nac ysbrydol, cyson, diwyd, a ffyddlon yn y ddau. Eithriad oedd unrhyw gyfarfod yng Nghapel y Beirdd heb fod Ivor yn bresenol, a phan ddigwydd ei fod yn absennol yr oedd ganddo reswm digonol dros hynny.
Yr oedd hefyd yn defnyddiol yn y gwaith, parod i wneyd yr hyn oll a allai. Yr oedd yr Ysgol Sul yn agos iawn at ei galon, ac yn ei ffordd ddeniadol ennillodd rhai o'i gyfeillion i fod yn ffyddlon iddi. Bu'n arolygwr, a chyflawnodd ei swydd yn anrhydeddus mewn gwyleidddra a thynerwch. Yr oedd yn gyfaill gwerth ei gael. Dyna dystiolaeth y rhai oedd wedi cael y fraint o fyned i mewn i gylch cyfrin ei gyfeillgarwch; glynai hyd y diwedd.
Pethau y capel a chrefydd oedd ei hoff bethau. Darllenai lawer a meddyliau lawer hefyd. Bellach y mae wedi ein gadael. '"Ni dychwel efe atom ni ond nyni a awn ato ef." Nid yw ond wedi myned o'n blaen. Huned hyd fore'r codi, a gorffwysed bendith gyfoethog Duw ar ei deulu annwyl Fydd mor ffyddlon i waith yr Arglwydd. Llawned yr Arglwydd ein gwlad a bechgyn ieuainc o gyffelyb ysbryd.
Mor anhawdd yw credu
Fod Ifor mewn bedd,
Ac na chawn ni mwyach
Fyth we!ed ei wedd.
O na, medd yr lesu.
Nid marw a wnaeth,
Ond gadael byd marw
I'r byd byw yr aeth.
Cawn eto ei gwrddyd
Mewn gwlad well i fyw,
Yng nghwmni'n hanwyliaid,
Ein lesu a'n Duw.
Pryd hynny datguddir
Mai neges y gwas
Oedd gollwng yr ysbryd
O'i garchar i maes.
Nid diwedd yw marw,
Ond dechreu gwir fyw;
Byw bywyd yr engy!,
Byw bywyd ein Duw
Byw heb allu marw,
Byw heb oddef poen,
Byw bywyd didduedd,
I ganmol yr Oen.