MARWOLAETH.
Gofidus gennym gofnodi marwolaeth y chwaer siriol a thawel, Elizabeth Jones, Glanwern, yr hyn a gymerodd le foreu Sadwrn, Rhagfyr 28ain, yn 38 mlwydd oed. Nyrs yn Mill Road Hospital, Lerpwl, ydoedd hyd nes y torrodd ei hiechyd i lawr rai misoedd yn ôl. Dioddefodd yn dawel a dirwgnach.Dydd Iau, am ddau o'r gloch, daeth tyrfa luosog i hebrwng yr hyn oedd farwol ohoni i "Erw Duw."
Gwasanaethwyd yn yr angladd gan y Parchn. R. Jones, B.A. a Morgam Price. Derbynied y teulu ein cydymdeimlad yn eu trallod.