ER COF.
Blin iawn gennym i'w cofnodi am farwolaeth y cyfaill ieuanc Mr W. L. Gray Jones, mab hynaf y Parch William a Mrs Jones, Glanafon Terrace, yr hyn a gymorodd le y nos Sul o'r blaen yn ei breswylfod yn Rhyl, ac efe yn 33 mlwydd oed wedi gwaeledd byr ond caled.Derbyniodd y rhan gyntaf o'i addysg, gyda lluaws o'i gyfeillion yn hen Ysgol Plasgwyn, ac rhan helaethaf yn Ysgol y Sir, Pwllheli. Yr oedd erbyn hyn wedi dringo i safle anrhydeddus, sef prif arianydd yng nghangen y London City and Midland Bank, Rhyl, ac wedi ennill ymddiriedaeth lwyraf pawb yn mbob cylch o wasanaeth.
Er mai gwan i raddau oedd ei iechyd erioed, eto yr oedd yn llawn asbri bywyd. Gyda gwen dyner yn eistedd ar ei wynebpryd bob amser. Yr oedd yn foneddwr mewn gwirionedd, ac yn ddiwyd a threfnus gyda phob peth yr ymaflai ynddo. Yr oedd yn ddyn ieuanc darllengar a chrefyddol yn ngwir ystyr y gair. Meddai ar gymeriad glan a dilychwin, ac yr oedd ynddo hoffder neillduol at ei hen fro enedigol, ac edrychai yn mlaen gyda llawenydd am gael dod yma am ychydig seibiant. Hoffid ef fel cymeriad disglaer gan bawb drwy'r holl fro.
Dodwyd ef i orwedd yn mynwent Chwilog ddydd Mercher diweddaf (angladd anghyoedd). Gwahoddwd yr oll o ddianconiaid Eglwys Ebenezer i'r angladd.
Cydymdeimlir yn y modd dyfnaf a'r teulu oll yn eu mawr alar.
Dyna fel yr englynodd un o'r beirdd :-
O'r gro pan ddeuo ryw ddydd—gyda'r Oen,
Caiff gadw'r wyl dragywydd;
Ail einioes o lawenydd,
A hir saif, i'w aros sydd.
Yr Herald Gymraeg 12/11/1918
DEIGRYN ADGOF AM WILLIAM LARSING,
mab hynaf y Parch W. Jones, M.A., a. (Ceridwen Peris), FourcrossesY gwynaidd Larsing yn gynar alwyd
Oedd wylaidd fab hawddgar;
Diau hwn 'roed yn yr ar-
Oedd wir dda ar y ddaear.
Llafuriodd a'i holl fwriad—oedd enill
Gwir ddaioni'n wastad,
Nodwedd fwyn ei duedd fad
A gurai'n llawn o gariad.
O! ddwys don aml fron a friwiwyd,— a chawn
Wag fwlch yn yr aelwyd,
I fythol haf - dyrchafwyd
Di dranc mwy yw y llanc llwyd.
Er llwyr ysu, o'r lJIawr isel - eilwaith,
Ar alwad fe ddychwel;
I fri da y fro dawel
O'r pau dwfn, uwch "Cerub" del.
ISEIFION.