Marwolaeth Mr Evan Jones (Ieuan Eifion) Plas, Chwilog.
Mawrth 1af, yn 76 neu 77 oed, bu farw Mr Evan Jones, er galar mawr i'w deulu, ei berthynasau, yn nghyd a llu o gyfeillion oeddynt wedi dysgu i'w barchu a'i edmygu.Dioddefodd ofid blin am rai dyddiau, er cael pob mantais allai triniaeth feddygol awgrymu, a chael pob gofal o ddydd i ddydd. Ond er pob ymdrech, dianc wnaeth o afaelion serch, ac o ganol bywyd ag oedd yn hynod am ei ddefnyddioldeb yn mhob cyfeiriad.
Ennillodd barch mawr fel dyn cyfrifol, a llanwodd le amlwg yn mywyd cymdeithasol a gwleidyddol ei ardal. Bu yn dwr cadarn i'r "achos" yn nghapel yr Annibynwyr yn Chwilog - yn ddiacon gweithgar a ffyddlawn, a chyflaawnai yr holl ddyledswyddau cydtynedol ag ef gyda'r gonestrwydd mwyaf cydwybodol. Gwnaeth ei oreu trwy lif a chorwynt adfyd i gyrraedd hafan dedwyddwch, yn lle llwfrhau, ymgodymu, ac ymofidio, fel y gwna llawer o honom.
Meddiannai alluoedd cryfion, syniadau eang, a mwy na'r cyfan, nerth ac argyhoeddiad i draethu ei farn ar bob achlysur pan fyddai galw am dano. Cymerai gryn ddyddordeb yn hen hanesion ei ardal, traddodai areithiau rhagorol ar y cyfryw destyn, ac yr oedd ei barabl mor esmwyth ei rediad a dwfr ar wely o gerrig llyfn, yr hyn a greai argraff ddwys ar feddyliau pawb a aent i'w wrando.
Heblaw hyny, yr oedd yn fardd medrus, fel y dengys ei gyfansoddiadau rhagorol. Treuliodd oes ddefnyddiol yn mhob ystyr Er mai ysgub addfed ydoedd, prin y gallem ei hebgor, ond teimiir y golled am dano yn hir, a phery ei enw am oesau wedi cuddio y genedlaeth bresennol yn y llwch. - HIRAETHUS.
Yr Udgorn 05/03/1913
CLADDEDIGAETH MR. EVAN JONES, PLAS.
Cymerodd hyn le prydnawn ddydd Mawrth diweddaf, y 4ydd cyfisol.Wrth y tŷ cyn cychwyn darllenwyd rhan o'r Ysgrythyrau gan y Parch. T. Williams, Capel Helyg, a gweddiwyd gan y Parch. E. T. Evans, Morfa Nefyn. Yna aed yn orymdaith i'r capel lle y cynhaliwyd gwasanaeth angladdol o dan lywyddiaeth y gweinidog, y Parch. Morgan Price. Cyflawnwyd y rhanau arweiniol trwy i Mr. Owen Hughes, Rhosgill Bach, ddarllen, ac i'r Parch. W. Ross Hughes, Borthygest; arwain mewn gweddi. Wedi cael anerchiad gan y gweinidog, yr hwn a ddywedodd fod nifer fawr o lythyrau yn amlygu cydymdeimlad a'r teulu wedi eu derbyn, siaradwyd yn mhellach y gan y Parchn. H. Davies, Abererch J. Davies, B.A. (Isfryn), ficer Llanarmon D. Griffith, Bethel, Arfon; T. Alun Jones, Chwilog; W. J. Nicholson, Porthmadog, a Mr. William Roberts, Glanrafon, Nefyn. Terfynwyd trwy weddi gan y Parch. R. W. Jones, Cilgwyn. Wrth y bedd, yn mynwent anenwadol Chwilog, darllenwyd a gweddiwyd gan y Parchn. James Davies, Llithfaen, a J. Rhydderch, Pwllheli.
Yr oedd yr holl wasanaeth ynglyn a'r cynhebrwng yn deimladwy, effeithiol, ac yn cael ei nodweddu gan urddas mawr.
Daeth torf anghyffredin o luosog o oreugwyr gwlad Lleyn ac Eifionydd, perthynol i bob enwad a phlaid, i dalu y gymwynas olaf i un a fu am flynyddau lawer yn amlwg iawn gyda phethau deufyd.
Bymtheng mlynedd i'r mis hwn, yn yr un fynwent, y rhoddwyd gweddillion marwol y Parch. D. S. Jones, awdwr y cofiant tra gwerthfawr hwnw i Williams o'r Wern. Wele erbyn hyn yr hyn oedd bosibl ei gladdu o'r diacon ffyddlon wedi ei roi i orphwys yn naear yr un Erw Duw ag y gorweddai llwch yr anwyl weinidog. Cariadus ac anwyl oeddynt yn eu bywyd, a dyma fedd y naill a'r llall yn yr un llecyn. Fe gofir am amser maith yn Chwilog am gynhebrwng Mr. Evan Jones. Y Duw a'i rhoes ef a all roddi eraill tebyg iddo i lanw y bwlch.
Yr Arglwydd a fyddo yn dirion iawn wrth y weddw a'r plant, ac wrth eglwys Siloh a'i gweinidog. Mr. W. Anthony, Pwllheli, oedd yr Undertaker.