Chwith iawn genym gofnodi maewolaeth Mrs. Catherine Roberts, Tywyn, a hi wedi treulio dros bedwar ugain o flynyddau ym mro ei genedigaeth.
Mae rhyw wagder mawr anesgrifiadwy i'w deimlo ar yr aelwyd heb yr hen fam anwyl, bur, a gonest, bob amser yn gwarchod gartref yn dda.
Wrth edrych ar ei chadair wag daw dagrau gloewon hiraeth i lygaid y syllydd, mor hoff oedd ganddi adrodd hanesion am yr hen amser gynt.
Yr oedd ganddi gof dihafal, a dawn i drosglwyddo ei drysorau fel y mor. Carai yr hen "style" yn angerddol. Yr oedd cadernid a gwreiddioldeb
ei meddwl yn ei gwneyd yn un o farn anibynol, a gallai wynebu gelyn yn aiddgar a llym. Yr oedd yn gyfeilles bur, ac ni thrafferthai i
foddio undyn ermwyn budd. Y mae hiraeth dwfn yn mynwes yr ardal ar ei hol. Gadawodd deulu lluosg i alaru eu colled. Mab iddi ydyw Mr. D.
Roberts, Tynryn, sydd yn wybyddus trwy'r wlad fel un sydd yn cario masnach eang. Hebryngwyd ei gweddillion gan dorf luosog iawn prydnawn
Gwener Hafaidd, Mehefin 26ain, i fynwent Bryncroes. Gwasanaethwyd gan y Parchn. J. Williams, a Lodwig Davies.