EVAN PRITCHARD (IEUAN LLEYN).
Welsh Poet, usually called 'Ieuan Lleyn,' born in 1770, was son of Richard Thomas Evan of Ty Mawr in the Parish of Bryncroes, Caernarvonshire, and his wife Mari Siarl (Charles). Both his mother and her father, Siarl Marc, were writers of Welsh verse. Evan began life as a schoolmaster at Llangian, near to his home; he afterwards kept school at Llanddeiniolen in the same county.In 1795 his parents emigrated to America, whereupon he became an excise officer, and until 1812 lived chiefly in England. In the latter year he returned to Ty Mawr, then occupied by his uncle, Lewis Siarl, and for the rest of his life conducted a travelling school in the neighbouring parishes. He married his cousin, Mary Robert Thomas, by whom he had three children, and died on 14th August 1832.
Pritchard was a versatile writer in all forms of Welsh verse. He wrote much for the periodicals of his time, and edited the 'Eurgrawn' of which some numbers appeared in Carnarvon in 1800. His best known poems are the 'Ode of Belshazzar's Feast,' that on the massacre of the bards, and the translation of the 'The Cottar's Saturday Night.' A collected edition of his verse was published under the title 'Caniadau Ieuan Lleyn' at Pwllheli in 1878.
Directory of National Biography, Volumes 1-22.
EVAN PRITCHARD (IEUAN LLEYN).
Digwydd ei enw weithiau fel Evan Richards, a'i enw barddol fel ' Ieuan ap Rhisiart,' ' Ifan Lleyn,' a ' Bardd Bryncroes.'Mab ydoedd i Richard Thomas, saer maen, a Mary Charles, merch Charles Mark, Tŷ-mawr, Bryncroes, un o bregethwyr cynnar y Methodistiaid yn Llŷn. Yr oedd ei fam yn brydyddes bur nodedig.
Tua 1795 ymfudodd ei rieni i America, a chymerth Ieuan ei gartref gyda'i daid yn Nhŷ-mawr, ac ar ôl ei farw ef, ym Mai 1795, gyda'i ewythr Lewis Charles, yn yr un lle. Yn y cyfnod hwn bu'n athro ysgol yn Llanddeiniolen.
Yn 1800 aeth i Loegr yn swyddog tollau. Dychwelodd i Gymru tua 1812.
Yn 1816 priododd Mary Roberts, Hen-dŷ, Bryncroes, a bu iddynt ddau fab a merch. Ar ôl dychwelyd i Lŷn bu'n cadw ysgol ym mhlwyf Bryncroes a'r plwyfi cyfagos hyd ei farwolaeth, 14eg Awst 1832.
Cystadleuodd droeon yn eisteddfodau'r cyfnod, e.e. yn Ninbych yn 1792 ar ' Cyflafan y Beirdd,' yn y Bala yn 1793 ar ' Tymhorau'r Flwyddyn ' ac yn Ninbych yn 1828 ar ' Gwledd Belsassar.' Ar 16eg Hydref 1799 urddwyd ef a ' Dafydd Ddu Eryri ' a ' Gutyn Peris ' yn feirdd Cadair Gwynedd gan ' Iolo Morganwg ' pan oedd y gŵr hwnnw ar ei daith ym Môn ac Arfon.
Yn Ionawr 1800 ymddangosodd y rhifyn cyntaf o gylchgrawn a elwid Greal neu Eurgrawn, wedi ei argraffu a'i gyhoeddi yng Nghaernarfon. Ar ei ddechrau ceir cywydd annerch gan ' Dafydd Ddu Eryri ' a rhagymadrodd gan ' Ieuan Lleyn,' a diau mai'r ddau hyn oedd y golygyddion, er na ddywedir hynny'n bendant. Nid ymddangosodd ond un rhifyn o'r cylchgrawn, ac y mae'n debyg mai'r rheswm am hynny oedd i Ieuan fynd i Loegr yn fuan wedyn. Cyhoeddwyd Caniadau Ieuan Lleyn ym Mhwllheli yn 1878 o dan olygiaeth 'Myrddin Fardd.' Ysgrifennodd rai emynau sy'n adnabyddus hyd heddiw. (Ar hynny gweler J. Thickens, Emynau a'u Hawduriaid, 75.)
Thomas Parry.