MARW CYFREITHIWR.
Dydd Iau yn y West End, Pwllheli, bu farw ymwelydd o'r enw Mr. C. H. Marshall, cyfreithiwr, a chofrestrydd Llys Sirol yn Huddersfield.Yr oedd Mr. Marshall yn 65 mlwydd oed ac yn dod i Pwllheli am ei wyliau ers 32 mlynedd. Cymerodd yr angladd le yn Mynwent Bodfean, ddydd Gwener, y Parch J. Edwards Ficer, Pwllheli yn gwasanaethu.
Gofelid am trefniadau gan Mr. J. B. Anthony Pwllheli.