William Griffith, Taihirion, Bodfean, Farmer : Will 1808.
Yn enw Duw. Amen.Ar y 16eg dydd o fis Mawrth yn y flwyddyn un mil wyth gant ag wyth. Rwyf fi William Griffith Tai hirion, Plwyf Bodvean yn Sir Gaernarfon ag Esgobaeth Bangor yn ystyried ansicrwydd y bywyd trancedig hwn, ac yn sicr a pherffaith mewn meddwl a chôf yn gwneuthur a chyhoeddi hwn fy niweddaf Ewyllys a'm Testament yn y drefn a'r dull canlynol (sef).
Yn gyntaf rwyf yn rhoddi ac yn cymynn i fy mab John Griffith yr haner ag sy yn fy meddiant, a'r rhan arall i fy annwyl wraig Margaret Griffith. Rwyf yn eu penodi yn gyd feddianwyr o fy mhresenol etifeddiaeth daoedd anifeiliaid ac eiddo o ba rywogaeth bynnag ac yn penodi hwn fy nweddaf Ewyllys a'm Testament ac yn galw yn ôl oll Ewyllysion o'r blaen ac yn ei gwneuthur yn wag ac yn ddirym. Mewn tystiolaeth o hyn yma rwyf yn gosod fy llaw a'm sêl ar y dydd a grybyllwyd uchod.
Arwyddwyd cyhoeddwyd mynegwyd a seliwyd hwn fy ewyllys a'm Testament diweddaf yngwyddfor y tystion isod.
Hugh Williams
Griffith Jones
On the fourth day of May in the year of our Lord 1808 the within Will was insinuated proved approved and in common form of Law decreed valid and Administration granted to the within named Executor John Griffith and Margaret Griffith, they being first sworn in common form of Law and that the whole of the Goods Chattels and Credits of the said deceased do not amount in value to £20.
Before me William Williams Surrogate.
Probate granted 15th October 1808.
A true and perfect Inventory of all the Goods Chattels and Effects of the late William Griffith of Taihirion in the Parish of Bodvean and County of Carnarvon, Farmer deceased made and appraised by us whose names are hereunto written this 4th day of May 1808.
| £ | s | d | |
| His Wearing Apparel | 0 | 5 | 0 |
| Saddle and Bridle | 0 | 5 | 0 |
| Horses | 3 | 0 | 0 |
| Cattle | 7 | 15 | 0 |
| Pigs | 0 | 15 | 0 |
| Sheep | 1 | 0 | 0 |
| Household Furniture | 4 | 5 | 0 |
| Implements of Husbandry | 1 | 0 | 0 |
| Corn | 1 | 12 | 6 |
| 19 | 17 | 6 |
John Roberts and Griffith Jones Appraisers.