Thomas Patrick, Cefn Uchaf, Bodfean : Will 1806.

Yn enw Duw. Ag Ewyllys Duw wneler. Amen.

Ar y dydd cyntaf o fis Mawrth yn y flwyddyn o oedran ein Harglwydd Iesu Grist, un mil wyth gant a phump. Myfi Thomas Padrick, Cefn Uchaf, Plwyf Bodvean yn Sir Gaernarfon, gŵr gwreng, bôd yn sal ag yn wan o gorph ond yn berffaith o gorffadwriaeth a deallwraieth yn gwneuthur ag yn ordeinio hwn fy ewyllys a'm testament diweddaf yn y dull a'r modd canlynol.

Yn gyntaf o gwbl yr wyf yn rhoddi i fy mab Robert Thomas y swm o un swlld a dim mwy.

Hefyd rwyf yn rhoddi i fy merch Elinor Thomas yn bresenol, gwraig Richard Jones, y swm o un swlld a dim mwy.

Hefyd rwyf yn rhoddi i fy merch Mary Thomas, yn bresenol, Gwraig William Thomas y swm o un swlld a fy nillad gwisgo yn gyfan oll a dim mwy.

Ond am y gweddill o fy eiddo am daoedd a'm dodrefn tŷ a'm dodrefn hwsmonaeth y cyfan y tŷ ag allan, rwyf yn rhoddi'r unrhyw i fy wŷr Robert Roberts ag iddo ef yn unig i fod yn feddianydd neu Executor o hwn fy Ewyllys a'm Testament Diweddaf ac i'r wyf yn Gwneuthur fy holl Ewyllys neu Ewyllysion eraill yn wag ag yn ddirym; ac yn cadarnhau hwn ac nid un arall i fod fy Ewyllys a'm Testament Diweddaf. Yn dystiolaeth ohono mi y ddodais fy llaw a'm sêl y dydd a'r flwyddyn y crybyllwyd uchod.

Cyhoeddi mynegi a'i dryddodi gennyf fi Thomas Padrick y Testamentwr i fod fy Ewyllys a'm Testament Diweddaf yng ngwyddfod.
Hugh William Ty Newydd
William Griffith Hendref
William Owen Penybryn

On the 20th day of June 1806 the within written Will was insinuated proved approved and in common form of Law decreed valid and Administration granted to the within named Executor Robert Roberts, he being first sworn in common form of Law, and that the whole of the Goods Chattels and Credits of the said deceased do not amount in value to £100.
Before me William Williams Surrogate

The true and perfect Inventory of all and singular the Goods Cattle and Chattels of Thomas Padrick late of Cefn Ucha of the Parish of Bodvean in the County of Carnarvon and Diocese of Bangor made valued and appraised the 25th day of June 1806.

  £ s d
Wearing Apparel   10 6
Household Stuff 21 16 2
 Implements of Husbandry 1 0 6
 Two Cows 13 0 0
One Old Mare 1 10 0
Six Sheep and three Lambs 3 16 0
 Two Young Pigs 2 0 0
Corn and Hay 5 0 0
  48 13 0

Richard Griffith and William Owen Appraisers.

LlGC Ewyllysiau Plwyf BODFEAN Parish Wills NLW