WILLIAM THOMAS JONES. PENYGAREG, TY'N Y MAES.
NODION 0 BETHESDA, ARFON.
Medi 23.— Gorchwyl prudd iawn sydd genyf y tro hwn i'ch hysbysu, sef marwolaeth a chladdedigaeth fy hen gyfaill hoff, William T. Jones, Penygareg, Ty'n y maes, dydd Llun, y 14eg cyfisol.Yr oedd ef a'r brawd David Roberts yn gweithio y tu uchaf i'r Ty Gwyn, er cael ceryg at waith pwrpasol pryd y disgynodd maen enfawr gan ymrolio drosto gan ei anafu yn drwm.
Cludwyd ef i'w gartref, lle y bu mewn poenau dirfawr hyd nes y bu farw boreu dydd Iau yn blygeiniol iawn. Prydnawn Mawrth diweddaf, daeth tyrfa dda i hebrwng ei weddillion i fynwent Coetmor.
Gwasanaethwyd wrth y ty ac yn y fynwent gan ein gweinidog, y Parch. T. L. Joseph, yn effeithiol iawn, a canwyd hefyd yn rhagorol gan y gynulleidfa yr hen emyn adnabyddus "O Fryniau Caersalem." Yr oedd swyddogion Bethel a Saron yn cludo gweddillion ein hen gyfaill, o'r ty ac yn ei osod yn ei fedd.
Bydd yn golled fawr i eglwys fechan Saron ar ei ol, anhawdd oedd cael neb yn fwy selog a gweithgar nag ef. Tystiolaeth un o arweinwyr crefyddol y Nant oedd mai dyma y golled fwyaf a gawsant braidd erioed; mae Nant y Ffrancon oll mewn galar o herwydd colli cymeriad mor rhagorol.
Safodd yn ddewr dros undeb chwarelwyr Gogledd Cymru, a chymerodd ran amlwg iawn yn helyntion chwarel y Penrhyn. Yr oedd yn wir arwr a chofir yn hir am ei ffyddlondeb gyda phob achos da.
Cysured yr Arglwydd ei weddw a'r plant oll yn ei trallod blin.
Bydd yn chwith iawn gan fy hen gyfaill hoff, y Parch. Owen Jones, Bronant, glywed am y newydd galarus, Taened y nefoedd ei chysgod drosto yn y wlad fawr yna.
Gan Ben Williams, 15 Gerlan Road.