MR. THOMAS MORRIS. (EOS IDWAL) BETHESDA, ARFON.
Ar gais teulu yr ymadawedig, yr wyf yn ceisio ysgrilblio ychydig am y cyfaill pur uchod i'r "Drych," a hyny er mwyn ei berthynasau a llawer o hen gyfeillion yr Eos sydd yn y wlad fawr yna, yr hyn sydd yn orchwyl caled i mi, o herwydd fy adnabyddiaeth o hono, ac ychydig o gysylltiad perthynasol hefyd.Cafodd gystudd caled am lawer o amser, ond dyoddefodd y cyfan yn dawel iawn, gan ymddiried yn ei Dduw. Cymerodd yr amgylchiad pruddaidd le dydd Mawrth, Medi 8fed, yn 79 mlwydd oed.
Yr oedd yn ddadganydd adnabyddus a phoblogaidd iawn yn ystod ei fywyd. Er mai chwarelwr ydoedd wrth ei alwedigaeth, o herwydd gwaeledd flynyddau yn ol, penodwyd ef i'r swydd o bwyswr yn y gwaith. Mae yn ddiameu y gellir dweyd am yr Eos, na fagodd ardal Bethesda yr un dadganydd a barhaodd am oes mor faith a'r Eos fel dadgeiniad.
Yr wyf yn cofio yn dda, fel y byddai ef a'i hen gyfeillion Alaw Llechid ac Eos Elidan yn cael galwadau ar hyd a lled y wlad i gynal cyngerddau, yr oeddynt yn ddigon o barti bron i gynal cyngerdd mewn unrhyw fan, ond erbyn hyn mae y tri wedi mynd.
Hyd y diwedd, yr oedd ei lais yn gryf, nerthol a soniarus. Cystadleuodd lawer yn ystod ei fywyd; a hyny yn rhai o brif Eisteddfodau Cymru, a bu yn fuddugol mewn llawer. Yr oedd yn aelod selog o gor mawr Dr. Rogers flynyddau yn ol.
A'r hyn oedd yn hynod iawn ynddo, yr oedd yn ddirwestwr selog ar hyd ei fywyd, ac yn wrth-ysmygwr, a byddai bob amser yn priodoli mai dyna oedd y rheswm dros fod ei lais yn dal mor gryf a nerthol. Beth ddywed y cantorion am hyn. Yr oedd yn neillduol bob amser gyda ei wasanaeth yn rhad mewn achosion elusenol yn yr ardal. Hefyd, bu'n arweinydd y gan yn nghapel Bethesda (A.) am amser maith. Cadwodd ei gymeriad yn ddysglaer a'i gan hyd y diwedd. Gellir ei ystyried yn un o enwogion y ddau blwyf Llanllechid a Llandegai. Ond erbyn hyn, mae y cyfaill anwyl Eos Idwal wedi tewi.
Cymerodd ei angladd le Gwener, Medi 11eg, yr hwn oedd yn lluosog a pharchus o'i hen ardalwyr yn mynwent Coetmor, pryd y gwasanaethwyd gan y Parch. Ellis Jones, Bangor, a'r Parch. James Jones, Salem.
Gedy weddw ac amryw blant i alaru ac i deimlo colled ar ol priod a thad gofalus a thyner, ac y mae y cydymdeimlad mwyaf yr ardal a hwy yn eu profedigaeth chwerw. Yr oedd yr Eos yn frawd i'r diweddar William Morris, Brynderwen gynt, y dadganwr poblogaidd er's llawer dydd yn yr America.