DAMWAIN ANGEUOL.

Yn gynas foreu Sadwrn bu farw y chwarelwr medrus a'r gwr ieuanc parchus, Mr. Joseph Evans, Tantbwlch, Gerlan, yn 28ain mlwydd oed ar ol y ddamwain ddifrifol yn chwarel y Penrhyn nawn Gwener. Gedy weddw ac un plentyn i alaru ar ol priod tyner a gofalus, ac y mae cydymdeimlad ardal gyfan a'r teulu yn eu profedigaeth chwerw. Y mae'r chwarelwyr eraill a anafwyd yn gwella cystal ag y disgwylid, ac yn aros ar hyn o bryd yn ysbyty'r chwarel.

Herald Gymraeg 09/06/1914


MR JOSEPH EVANS. GORONWY STREET, GERLAN.

Mehefin 9fed. Gorchwyl pruddaidd sydd genyf i ddechreu fy nodion y waith hon.

Ar ol pump o'r gloch dydd Gwener, Mai 29ain, dygwyddodd "damwain ddifrifol iawn yn chwarel y Penrhyn, trwy i ran o'r mur oedd yn dal Ponc Malacoff ddyfod i lawr yn hynod ddirybudd, a rhai o'r gweithwyr o dan y malurion, yr hyn a brofodd yn angeuol i un o honynt ar ol cyraedd yr hospital, sef Joseph Evans, Goronwy Street, Gerlan, yr hwn oedd yn gweithio yn y rhaff pan y daeth y mur i lawr; y tri arall oeddynt Richard Pritchard, Perthi, Tregarth (yr hwn sydd wedi brifo yn arw iawn), ac Owen Pritchard, ei fab, ond y mae ef wedi dyfod yn rhagorol iawn; a'n hen gyfaill John Williams, Ciltwllan, ond cafodd ef ddyfod adref mewn cerbyd wedi cael gwaredigaeth fawr, ac y mae yn gwella yn foddhaol.

Brydnawn Mercher canlynol, daeth tyrfa enfawr i hebrwng gweddillion y brawd Joseph Evans i fynwent Coetmor, a gwasanaethwyd wrth y ty gan y Parchn. R. W. Jones, Gerlan, a James Jones, Salem, ac yn y fynwent gan y Parchn. T. L. Joseph a R. Jones, Siloam.

Gadawodd briod ieuanc a bachgen bychan, a lluaws o berthynasau i alaru ar ei ol. (Mae Mrs. Evans yn gantores rhagorol, ac wedi bod o wasanaeth mawr gyda chaniadaeth y cysegr yn Siloam, a mawr ydyw y cydymdeimlad a hi yn ei thrallod.)
Gan Ben Williams, 15 Gerlan Road.

Y Drych ~ Mehefin 25ain 1914.