MARW YN IEUANC.
Gofidus genym gofnodi marwolaeth Miss Elizabeth Ellen Thomas, merch Mr. a Mrs. T. W. Thomas, 5, Penybryn Terrace, yr hyn a gymerodd le ddydd Mercher diweddaf, ar ol cystudd caled, yn 30ain mlwydd oed. Yr oedd yn ferch ieuanc garedig a siriol, ac yn adnabyddus i gylch eang yn yr ardal hon, ac yng Nghaernarfon, lle y bu yn gwasanaethu ar un adeg yn masnachdy y Nelson. Ymfudodd i'r Amerig, a phan yn Columbus Ohio, yn gweinyddu mewn ysbyty ar rai yn dioddef oddiwrth dwymyn y typhoid, clafychodd ei hunan. Ymadawodd y dwymyn oddiwrthi, ond syrthiodd wedyn i afael afiechyd arall. Gan ei bod yn gwaethygu dadganodd ddymuniad am gael dod adref i Fethesda. Cyrhaeddodd yma bythefnos yn ol yng ngofal ei modryb a'i brawd. Yn ei chystydd blin yr oedd ganddi brofiadau melus, ac amlwg oedd ei bod wedi llwyr aeddfedu ar gyfer gwlad well.Ddydd Sadwrn cafodd ei hebrwng i dy ei hir gartref ym mynwent Coetmor, gan dorf luosog.
Y prif alarwyr oeddynt Mr. a Mts. T. W. Thomas (tad a mam), Mr. T. J. Thomas (brawd), a Mrs. Thomas; Mrs. Tyson (chwaer), a Mr. Tyson, Barrow in Furness; Mrs. Craig, Tacoma (modryb), Miss Thomas (modryb), Mr. W. Thomas, Waen Pandy, Tregarth (taid), Mrs. Owen, Birkenhead; Mrs. Hurley, Llandegai; Misses Thomas, Cilfoden; Miss C. Jones, Kirkby in Furness; Mrs. Thomas, Craig y Pandy; Mrs. Thomas, Penygroes; Mrs Evans, Sling; Mr. T. Hughes, Sling; Mr. John Hughes, Derwen Deg, etc.
Ymysg y rhai o Gaernarfon yn bresenol yr oedd Mr. a Mrs. Walter Thomas, Fernleigh.
Gwasanaethwyd wrth y ty, yn y Capel Wesleyaidd lle y cynhaliwyd gwasanaeth ar y ffordd i'r fynwent, ac ar lan y bedd gan y Parchn. Richard Jones, B.A., Bethesda; Rhys Jones, Colwyn Bay; a Tegla Davies, Tregarth.