MARW.

Dydd Iau, y 15fed, cyf. yng Nghladdfa Ymneilltuol Coetmor, claddwyd Mrs. J. A. Evans, priod Mr. Thomas Evans, Saer, Bebington, Birkenhead, yn 26 mlwydd oed.

Merch ydoedd i Mr. a Mrs. Hugh Jones, 10, Victoria Place, Bethesda, ac ni bu yn briod ond ychydig gyda blwyddyn.

Cydymdeimlir yn ddwys gyda'i phriod a'i rhieni yn eu profedigaeth o golli priod ofalus a merch anwyl a hoff.

Herald Gymraeg 20/01/1914