ELIAS JONES. PENYBRYN, BETHESDA, ARFON.
Mr. Elias Jones, Penybryn (brawd i Mrs. Davies, Penrhiw, a Mrs. T. B. Jones, High St.).Bu ef ym wael yn hir, yr oedd yn amlwg ei fod yn dihoeni ers tro. Bu yn nodedig ffyddlon fel ysgrifenydd Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru, cangen Bethesda, am rai blynyddoedd, a theimlai ddyddordeb dwfn dros lwyddiant yr undeb. Y dydd Gwener dylynol ar ol angladd yr Eos, hebryngwyd ei weddillion yntau (amgladd anghyhoedd) i fynwent Coetmor, a gwasanaethwyd gan y Parch. W. R. Owen (ei weinidog).
Bu yn aelod ffyddlon yn Jerusalem am flynyddoedd lawer, a theimlir colled ar ei ol.
Gan Ben Williams, 15 Gerlan Road.