ROBERT WILLIAMS (EOS Y BERTH). BETHESDA, ARFON.
Rhagfyr 1af. — Mae genyf y gorchwyl pruddaidd y waith hon eto i goffhau am farwolaeth Mr. Robert Williams (Eos y Berth), Tachwedd 16eg, ar ol rhyw wythnos o gystudd trwm.Yr oedd yr ymadawedig yn hysbys trwy yr holl wlad fel datganwr medrus gyda'r delyn, a mynych y byddai galw am dano i wahanol Eisteddfodau Cymru. Yr oedd pan yn anterth ei nerth o gyfansoddiad cadarn ac yn ddyn siriol a theg yr olwg. Amser difyr odiaeth i mi, a llawer fyddai y mwynhad i drigolion Bethesda pan y byddai ef a'r diweddariaid, Eos Mai, a'r Ehedydd doniol, William Jones, Ty Hen, yn canu bob yn ail ar lwyfan y farchnad, a Mr. J. Elias Davies ym. chwareu y delyn; ond y mae y tri erbyn heddyw wedi huno yn dawel. Mae Ap Eos y Berth yn chwareuwr rhagorol, a mawr obeithiaf y ceir rhai o fechgyn i talentog yr ardal i allu canu etc gyda'r delyn.
Hebryngwyd ei weddillion y Mercher canlynol i fynwent Coetmor, a gwasanaethwyd gan y Parchn. W. R. Owen, Jerusalem, a J. T. Job, Carneddi. Yr oedd brass band y Penrhyn yno hefyd yn canu yn soniarus iawn, yn enwedig y don "Aberystwyth" yn hynod feistrolgar. Cafodd gladdedigaeth barchus iawn.
Heddwch i'w lwch.
Gan Ben Williams, 15 Gerlan Road.