PARCH. JOHN HUGHES (GLANYSTWYTH).

Ganwyd ar y 15fed o Ebrill 1842, yn Llanilar, pentref bychan heb fod neppell o Aberystwyth. Perthynai i'r Methodistiaid Calfinaidd ar y dechrau. Bu yn was fferm am ychydig. Yna symudodd i Ffestiniog, lle y bu yn gweithio yn y chwarel. Tra yn y lle hynw dechreuodd farddoni, a phregethu gyda'r Wesleyaid. Yr oedd mor hoff o farddoni, meddir, fel y galwai am wasanaeth gwr arall i bregethu yn ei le yn fynych. O'r diwedd, gwrthododd y cyfaill dan sylw lenwi y bylchau yn barhaus, a dywedodd wrth Glanystwyth (yn garedig) y dylai roddi heibio naill ai barddoniaeth neu bregethu. Dewisodd yntau roddi barddoniaeth heibio, a gwyddis iddo ddyfod yn seren ddisglaer fel pregethwr a duwinydd. Cafodd y radd o D.D. o un o athrofeydd America. Ni chafodd addysg golegawl, ond manteisiodd ar bob achlysur i ddiwyllio ei feddwl.

Ym mis Medi 1881, daeth Glanystwyth i gylchdaith Caernarfon. Bu ei arhosiad yn y dref yn benod oleu iawn yn hanes Wesleyaeth y cylch. Yng Nghofaint Glanystwyth (Gwynfryn Jones ac H. M. Hughes, ei fab) ceir hanes byw iawn o rai o'r oedfaon grymus gafodd Mr. Hughes tra yng Nghaernarfon. Daeth Amryw at grefydd yn ystod ei arhosiad yn y dref. Pan yr ymadawodd yn 1884 gymaint oedd parch yr eglwys a'r trefnwyr iddo fel y cyflwynasant dysteb hardd iddo ar ei ymadawiad.

Yr oedd yn bregethwr dyfn ac argyhoeddiadol, yn feddyliwr cryf, ac yn fardd gwych. Gallasai fod wedi enill enw iddo ei hun fel bardd pe wedi dal i gyfansoddi. Ond galwai gwasanaeth arall am ei alluoedd. Yn niwedd ei oes gofalai am y Llyfrfa Wesleyaidd yn Mangor. Bu farw ar y 24ain o Chwefror, 1902, a chladdwyd ef y dydd Iau canlynol yn mynwent, Glanadda.

Herald Gymraeg 24/03/1914