BANGOR.

MARWOLAETH.

Dydd Mawrth, bu farw Mrs Emma Roberts, 242, High-street, gweddw y diweddar Mr William Roberts, yr hwn fu yn fasnachwr parchus yn Mangor am yspaid maith o flynyddau.

Yr oedd Mrs Roberts yn 68 irJwydd oed, yn Gristion disglaer, ac yn aelod ffyddlawn o eglwys yr Annibynwyr yn Mhendref.

Gadawa ddau fab i alaru ar eu hol, sef Mr W. A. Roberts, Is-olygydd y "Gwalia," a Mr B. R. Roberts, gyda'r rhai y cydymdeimlir yn fawr yn eu trallod.

Claddwyd gweddillion marwol yr ymadawedig yn mynwent Glanadda dydd Gwener, pan y gwasanaethwyd gan y Parchn. S. R. Jenkins a'r Proffeswr J. M. Davies.

Yr Herald Gymraeg 21/09/1897