MARWOLAETH MR. RICHARD DORKINS, IRONMONGER.

Ychydig wedi deg o'r gloch boreu ddydd Mercher bu farw ein cyfaill serchog a hoff, Mr. Dorkins, yn annisgwyliadwy iawn, gan yr ymddangosai y Sabboth yn ei gynefin iechyd, a chymerai ei ran fel arferol yn y gwahanol gyfarfodydd yn Nghapel y Tabernacl.

Yr oedd wedi ei gynysgaeddu ag ysbryd bywiog a llawn gweithgarwch. Torodd allan mewn cylch o ddefnyddioldeb gyda'r Ysgol Sabbothol yn fwyaf neillduol; yr oedd yn arolygwr ac yn arholwr, a bu ei lafur yn y swyddau hyn dan fendith amlwg. Hefyd, cymerai ddyddordeb mewn dosbarth Beiblaidd a gynhelid nos Fawrth, yr hwn oedd yn hollol dan ei ofal, pryd yr ymgasglai ar gyfartaledd o 25 i 30.

Yn ystod y blynyddoedd diweddaf byddai ei yspryd yn amlwg yn cael ei nawseiddio gan grefyddolder dwfn, yn enwedig yn nghymdeithas ei gyfeillion. Yr oedd yn ddirfwestwr egwyddorol a selog a chymerai ran flaenllaw yn y symudiad hwn.

Nodded y nef fyddo dros ei wedw a'i blant galarus.

Claddwyd ef boreu dydd Sadwrn, y 14eg, yn Mynwent Glanadda, pryd yr ymgynullodd torf luosog.

Y Genedl ~ 18fed Mai 1887.